Cei Llechi

Mae 'Cei Llechi', ar lan yr Afon Seiont, wrth wraidd Siop Pen Gwyn. Cafodd yr adeilad ei adnewyddu a'i drawsnewid yn ddiweddar i greu mannau gwaith a siopau artisan. Rydym ni’n paratoi ein cyffug menyn Cymreig yma, yn pecynnu ac yn paratoi melysion a chonau melys, ac yn creu ein bocsys Siocled Artisan yn arbennig i chi. Beth am alw draw i’n gweld ni wrth ein gwaith a bachu trît neu ddau?