Beddgelert
Beddgelert, lle daw’r chwedlau a’r mynyddoedd ynghyd.

Gallwch ddod o hyd i Siop Pen Gwyn yn adeilad hynaf y pentref yn ôl y sôn - Bwthyn Llewelyn gynt. Dewch i weld yr hen lawr llechi a chynllun blith draphlith y siop - a chofiwch wylio’ch pen! Ac mae gennym ambell i arteffact Cymreig i fyny'r grisiau i chi fwrw golwg drostynt!