Mae'r hydref wedi cyrraedd Siop Pen Gwyn – a'n blasau newydd hefyd!

Mae rhyw hud a lledrith yn yr aer pan fydd yr hydref o'r diwedd yn ein cyrraedd. Mae'r boreau'n oer, y nosweithiau'n mynd yn hwy, ac yn sydyn mae noson glyd gyda danteithion melys yn teimlo fel y peth mwyaf moethus. I ni yma yn Siop Pen Gwyn, nid sgarffiau a diodydd poeth yn unig yw'r hydref – mae'n ymwneud â chreu blasau sy'n gwneud i chi deimlo’n glyd yr eiliad y byddan nhw’n cyrraedd eich ceg!

Bu disgwyl mawr yr wythnos yma, a heddiw rydyn ni’n falch o ddatgelu ein Casgliad o Gyffug yr Hydref. Dyma bedwar blas moethus, gyda phob un wedi'i gynllunio i ddal y tymor yn ei ffordd flasus ei hun:

🌿 Siocled Mintys – Clasur go iawn yn ei ôl. Cyffug siocled llyfn wedi'i droelli â mintys ffres, yn ôl mewn pryd ar gyfer y nosweithiau tywyll hynny pan fyddwch chi'n hiraethu am rywbeth cŵl ond cysurus.

🌹 Cyffug Siocled Turkish Delight – Cyffug Turkish Delight ag arogl rhosyn mewn cyffug siocled moethus. Dyma gyffug egsotig, llawn hiraeth a fydd yn siŵr o rannu barn – ond trystiwch ni: os ydych chi'n hoffi’r blas yma, mae yna wledd yn aros amdanoch!

🔥 Cyffug S'mores – Dychmygwch falws melys gludiog, bisged grensiog, a chyffug siocled trwchus i gyd mewn un cegiad. Mae'n llawenydd wrth dân y gwersyll, ond heb y mwg yn eich llygaid!

🍏 Cyffug Afal Taffi – Dyw hi ddim yn hydref heb afalau a charamel. Rydyn ni wedi defnyddio sudd ffres gan ein cymdogion ym Mhant Du, wedi'i wasgu o afalau a dyfir yma yng ngogledd Cymru, a'i gyfuno â chyffug caramel menynaidd a darnau taffi crensiog. Melys, crensiog, ac yn flasus bob tamaid!

Mae pob darn o gyffug a wnawn yn cael ei droi, ei dywallt, ei dorri a'i lapio gynnon ni – llafur cariad sydd wedi dod yn rhan o'n rhythm dyddiol. Mae rhywbeth rhyfeddol o foddhaus am wylio siwgr yn trawsnewid yn gyffug sidanaidd, a gwybod ei fod am ddod â gwên i rywun. Dyna fywyd cyffug: ffedogau blêr, cegin llawn arogleuon melys, a’r llawenydd syml o greu rhywbeth a ddaw â gwên i wyneb rywun.

Felly wrth i’r hydref fynd yn ei flaen, dyma eich gwahodd i rannu’r blasau hyn gyda ni – p’un a ydych chi’n galw heibio i’r siop am sgwrs a blas, neu’n archebu ar-lein ac yn dadlapio parsel bach o hapusrwydd gartref.

✨ Mae Casgliad Cyffug yr Hydref ar gael yn y siop ac ar-lein o heddiw ymlaen.

🛒 Porwch ac archebwch nawr ar www.sioppengwyn.co.uk

Mwynhewch y nosweithiau clyd, y boreau oer, a chyffug i felysu’r cyfan.

Rhannu